Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 12 Tachwedd 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.33 - 11.45 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Rees AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC (yn lle Darren Millar AC) Alun Davies AC Janet Finch-Saunders AC John Griffiths AC Elin Jones AC Lynne Neagle AC Gwyn R Price AC Lindsay Whittle AC Kirsty Williams AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Richie Jones, Ffederasiwn yr Heddlu ar gyfer Cymru a Lloegr Gary Phillips, TARIAN, Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol De Cymru Paul Roberts, Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Llinos Madeley (Clerc) Helen Finlayson (Ail Clerc) Sian Giddins (Dirprwy Glerc) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Amy Clifton (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar. Dirprwyodd Mohammad Asghar ar ei ran.
2 Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): Sesiwn dystiolaeth 5
2.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.
2.2 Cytunodd y tystion i ddarparu gwybodaeth ychwanegol i’r Pwyllgor ynghylch:
· camau sy'n cael eu cymryd gan heddluoedd ledled Cymru i atal y defnydd o sylweddau seicoweithredol newydd;
· camau sy'n cael eu cymryd gan y gwasanaethau cyhoeddus perthnasol i gydweithio a chydgysylltu gwasanaethau cymorth i unigolion sydd am roi'r gorau i gymryd sylweddau seicoweithredol newydd; a
· braslun o unrhyw fylchau o ran y gwasanaethau cymorth sylweddau seicoweithredol a ddarperir gan Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol.
3 Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): Sesiwn dystiolaeth 6
3.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.
4 Papurau i’w nodi
4.1 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16: gwybodaeth ddilynol yn dilyn 16 Hydref 2014
4.1a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16.
5 Cynnig o dan Reolau Sefydlog 17.42(ix) a (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac ar gyfer eitem 1 y cyfarfod ar 20 Tachwedd 2014
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar gyfer yr ymchwiliad.
7 Ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau: trefniadau ymgynghori
7.1 Trafododd y Pwyllgor y trefniadau ar gyfer ymgynghoriad yr ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau, gan gytuno arnynt.
8 Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: trafod yr adroddiad drafft
8.1 Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar ei ymchwiliad, yn amodol ar fân newidiadau, ar gyfer ei ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru.